Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Fforchlys y calch (enw gwyddonol: Herbertus stramineus; enw Saesneg: straw prongwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae'n debyg iawn i fwsogl ac yn tyfu mewn twmpathau codi, brown budr neu bron yn ddu. Mae'r coesynnau'n 3–7 cm o daldra. Gyda lens llaw, mae'r dail yn gorgyffwrdd yn agos at y canol. Mae'r dail yma'n 1–1.5 mm o hyd gyda'r llabedau wedi'u pwyntio'n fain ac yn ymledu.[1]
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Fforchlys y calch (enw gwyddonol: Herbertus stramineus; enw Saesneg: straw prongwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae'n debyg iawn i fwsogl ac yn tyfu mewn twmpathau codi, brown budr neu bron yn ddu. Mae'r coesynnau'n 3–7 cm o daldra. Gyda lens llaw, mae'r dail yn gorgyffwrdd yn agos at y canol. Mae'r dail yma'n 1–1.5 mm o hyd gyda'r llabedau wedi'u pwyntio'n fain ac yn ymledu.