Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys y rhosydd (enw gwyddonol: Cephaloziella stellulifera; enw Saesneg: heath threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru (de Sir Benfro a Sir Fynwy), yn Iwerddon, gwledydd Prydain (yn brin ar wahan i Gernyw) ac yn Ffrainc.
Dyma un o'n llysiau'r afu mwyaf prydferth, yn ôl llawer. Mae'r dail tua 0.25 mm o hyd, ac mae ganddynt 2 labed o faint anghyfartal, pob un gyda llawer o ddannedd sydd i'w gweld yn glir trwy chwyddwydr. Mae'n llai na 0.5 mm o led), mae goesynnau gwyrdd yn ymlusgo ymysg mwsoglau bach neu weithiau yn ffurfio clytwaith, bychan trwchus, ac yn aml gydag egin gwyrdd golau.[1]
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.