dcsimg

Deilen gron ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Planhigyn blodeuol a deugotyledon suddlon yw Deilen gron sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Crassulaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Umbilicus rupestris a'r enw Saesneg yw Navelwort.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Deilen Gron, Bara Ceiniogen, Bogail Gwener, Bogail y Bugail, Bogail y Forwyn, Bogeil-lys, Bogel Gwener, Bogel y Forwyn, Ceiniogllys y Fagwyr, Crondoddaidd, Dail Ceiniog, Llysiau Ceiniog, Llysiau y Fogel.

Esgblygodd y planhigyn hwn tua 100-60 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn nwyrain Affrica a thiroedd Môr y Canoldir.

Meddyginiaethau a Llên Gwerin

  • 'Roedd nain yn tyfu'r planhigyn i gael gwared o gyrn ar fodia'i thraed.‘ Roedd yn enedigol o’r Fanod a bu’n rhaid iddi ddod a dŵr o Ffynnon Doctor i'w dyfrio. 'Mae'r planhigion yn dal i dyfu'n ein gardd fach'.[2]
  • Pan oeddwn i ́n blentyn byddai fy mam yn torri ́r ddeilen gron yn fach a ́i rhoi mewn ́gauze ́ i ́w rhoi ar ben ddyn [pen düyn] neu fyddigiad. Mi fyddai ́n saff o fod wedi torri mewn rhyw awr.[3]
  • "Cofio defnyddio blodau hwn i wneud "pwdin reis" wrth chwarae ty bach".[4]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Hugh G. Roberts ym Mwletin Llên Natur 33[1]
  3. Bethan Wyn Jones ym Mwletin Llên Natur 33[2]
  4. Ann Jones, Necyn, ar lafar i DB
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Deilen gron: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Planhigyn blodeuol a deugotyledon suddlon yw Deilen gron sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Crassulaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Umbilicus rupestris a'r enw Saesneg yw Navelwort. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Deilen Gron, Bara Ceiniogen, Bogail Gwener, Bogail y Bugail, Bogail y Forwyn, Bogeil-lys, Bogel Gwener, Bogel y Forwyn, Ceiniogllys y Fagwyr, Crondoddaidd, Dail Ceiniog, Llysiau Ceiniog, Llysiau y Fogel.

Esgblygodd y planhigyn hwn tua 100-60 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn nwyrain Affrica a thiroedd Môr y Canoldir.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY