Madfall fach a geir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd Asia yw'r fadfall gyffredin neu yn syml madfall (Zootoca vivipara, gynt Lacerta vivipara). Mae'r corff a phen hyd at 6.5 cm o hyd ac mae'r gynffon hyd at 13 cm.[1] Fel rheol, mae'r gwryw'n frown gyda smotiau du a gwyn a bol oren. Mae gan y fenyw ystlysau tywyll a llinell dywyll ar hyd yr asgwrn cefn.[2]
Mae'n byw mewn amrywiaeth o gynefinoedd megis rhostir, glaswelltir, twyni a choetir agored.[1] Mae'n bwydo ar bryfed a phryfed cop yn bennaf.[2] Mae'n rhoi genedigaeth i epil byw fel rheol ond mae rhai poblogaethau deheuol yn dodwy wyau.[1]
Madfall fach a geir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd Asia yw'r fadfall gyffredin neu yn syml madfall (Zootoca vivipara, gynt Lacerta vivipara). Mae'r corff a phen hyd at 6.5 cm o hyd ac mae'r gynffon hyd at 13 cm. Fel rheol, mae'r gwryw'n frown gyda smotiau du a gwyn a bol oren. Mae gan y fenyw ystlysau tywyll a llinell dywyll ar hyd yr asgwrn cefn.
Mae'n byw mewn amrywiaeth o gynefinoedd megis rhostir, glaswelltir, twyni a choetir agored. Mae'n bwydo ar bryfed a phryfed cop yn bennaf. Mae'n rhoi genedigaeth i epil byw fel rheol ond mae rhai poblogaethau deheuol yn dodwy wyau.