Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Rhydlys brych (enw gwyddonol: Marsupella sphacelata; enw Saesneg: speckled rustwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Ystyr y gair 'brych' yn y cyd-destun hwn yw 'gydag ysmotiau', fel yn y gair 'brech'.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn dau le yng Ngwynedd, ac mae hefyd yn brin iawn yng Nghernyw, Lloegr ac Iwerddon; yn yr Alban, mae'n eitha cyffredin.
Mae M. sphacelata yn tyfu mewn matiau eithaf rhydd, weithiau ar eu cyllell, ond yn amlach yn llorwedd, yn amrywio o ran lliw o frown-gwyrdd i frown tywyll neu bron yn ddu, gyda rhai planhigion o welyau eira yn felynfrown gydag ymylon cras. Mae'r egin yn 0.5–3 mm o led, a gallant dyfu i 8 cm o hyd.[1]
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Rhydlys brych (enw gwyddonol: Marsupella sphacelata; enw Saesneg: speckled rustwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Ystyr y gair 'brych' yn y cyd-destun hwn yw 'gydag ysmotiau', fel yn y gair 'brech'.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn dau le yng Ngwynedd, ac mae hefyd yn brin iawn yng Nghernyw, Lloegr ac Iwerddon; yn yr Alban, mae'n eitha cyffredin.
Mae M. sphacelata yn tyfu mewn matiau eithaf rhydd, weithiau ar eu cyllell, ond yn amlach yn llorwedd, yn amrywio o ran lliw o frown-gwyrdd i frown tywyll neu bron yn ddu, gyda rhai planhigion o welyau eira yn felynfrown gydag ymylon cras. Mae'r egin yn 0.5–3 mm o led, a gallant dyfu i 8 cm o hyd.