Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Codlys nees (enw gwyddonol: Calypogeia neesiana; enw Saesneg: Nees' pouchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Yng ngwledydd Prydain, mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, gogledd-orllewin Lloegr a'r Alban a cheir un neu ddau o lefydd hefyd ar arfordir deheuol Lloegr. Mae hefyd i'w chael yn Iwerddon.
Er mwyn adnabod y rhywogaeth hon, mae'n rhaid edrych arni drwy feicrosgop. Mae coesynnau'r Codlys nees yn 1.5–3 mm o led, gyda dail 1.5 mm o hyd a 1.3 mm o led.
Fel y Codlys meylan, mae'n blanhigyn sy'n hoffi tir asidig e.e. cors a gall hefyd dyfu ar lethrau mawnog neu ar glogwyni sydd wedi'u gorchuddio â hwmws. Yn fwy anaml fe'i ceir yn y cysgod ar foncyffion sy'n pydru.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.