dcsimg

Byseddlys ymgripiol ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Byseddlys ymgripiol (enw gwyddonol: Lepidozia reptans; enw Saesneg: creeping fingerwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon yn gyffredin iawn yng Nghymru a gwedydd eraill Prydain ac Iwerddon.

Mae'n debyg iawn i Byseddlys pearson, ac fel arfer mae'n tyfu trwy fwsoglau a llysiau'r afu eraill, yn enwedig mewn coetiroedd llaith, ac ar lethrau creigiog mynyddig neu mewn llethrau caregog. Maen ffurfio matiau tenau o blanhigion ymlusgol a changhennog. Mae'r coesynnau'n 2–3 cm o hyd ac 1 mm o led. Gall fod naill ai'n wyrdd melynaidd neu'n wyrdd tywyll.

Llysiau'r afu

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Cyfeiriadau

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Byseddlys ymgripiol: Brief Summary ( Welsh )