Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Arianllys hirgoes (enw gwyddonol: Anthelia julacea; enw Saesneg: Alpine silverwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Mae'r lliw llwyd glas golau yn nodweddiadol o'r Arianllys hirgoes (a'r Arianllys byrgoes), ac yn ei gwneud yn hawdd i'w hadnabod. Mae'r egin yn 0.5 mm o led, a gyda chwyddwydr, gellir gweld 3 rhes o ddail deulabed, gyda'u pwyntiau miniog wedi'u cywasgu i'r coesyn. Nid oes unrhyw lysieuyn afu Prydeinig arall yn llwydlas a chanddo 3 rhes o ddail sy'n deulabed.[1]
Mae'r rhannau ffrwythlon tua dwywaith lled y coesynnau nad ydynt yn ffrwythlon.
Fel yr awgryma'r enw, mae swp o Arianllys hirgoes i'w gweld fel carped arian, yn aml ar cerrig asidig neu ar fawnog. Mae hefyd tyfu ar greigiau gwlyb, glannau nentydd a mannau cysgodol, cymharol gynnes.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Arianllys hirgoes (enw gwyddonol: Anthelia julacea; enw Saesneg: Alpine silverwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Anthelia julacea là một loài rêu tản trong họ Antheliaceae. Loài này được (L.) Dumort. miêu tả khoa học lần đầu tiên năm 1835.[1]
Anthelia julacea là một loài rêu tản trong họ Antheliaceae. Loài này được (L.) Dumort. miêu tả khoa học lần đầu tiên năm 1835.