dcsimg

Neidr ddefaid ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Mae'r neidr ddefaid neu neidr ddall (Lladin: Anguis fragilis; Saesneg: slow-worm) yn ymlusgiad heb goesau. Enwau eraill arni yw dallneidr, slorwm, neidr fraith (yng ngogledd Cymru, yn arbennig ym Môn), maplath (yng Ngwent) a modrybwilan (yn ne ddwyrain Cymru).

 src=
Neidr ddefaid yn croesi llwybr mewn coedwig fythwerdd ym Merthyr Tudful.

Madfallod yw nadroedd defaid. Mae croen y mathau o neidr ddefaid yn llyfn â chennau nad yw'n gorgyffwrdd â'i gilydd. Fel pob madfall arall, mae gan nadroedd defaid y gallu i autotomeiddio, sy'n golygu eu bod yn medru diosg eu cynffonau er mwyn dianc rhag ysglyfaethwyr. Mae'r gynffon yn aildyfu ar ôl hynny, ond yn anaml i'w hyd blaenorol.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY