dcsimg

Cwtiad Llwyd ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Mae'r Cwtiad Llwyd (Pluvialis squatarola) yn aelod o deulu'r rhydyddion.

Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol dros ben, gyda smotiau du a gwyn ar y cefn a rhan uchaf yr adenydd a'r wyneb, y fron a'r bol yn ddu. Yn y gaeaf mae'r fron a'r bol yn troi'n wyn ac mae'n haws ei gymysgu gyda'r Cwtiad Aur, ond mae pig y Cwtiad Aur yn llai ac hyd yn oed yn y gaeaf mae rhywfaint o liw aur ar y cefn, sy'n absennol yn y Cwtiad Llwyd. Os oes amheuaeth y peth gorau i'w wneud yw disgwyl i'r aderyn hedfan. Mae gan y Cwtiad Llwyd ddarn du amlwg ar ei gesail tra mae'r Cwtiad Aur yn wyn yma.

 src=
Cwtiad Llwyd yn ei blu gaeaf
 src=
Pluvialis squatarola

Mae'n nythu ar rostir agored ar ynysoedd yn yr Arctig o ogledd Canada i ogledd-ddwyrain Rwsia. Adeiledir y nyth ar lawr. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf cyn belled a de Ewrop a gogledd Affrica, De America cyn belled i'r de a'r Ariannin ac Awstralia.

Yn wahanol i lawer o rydyddion, nid ydynt yn gwthio'r pig i'r mwd i chwilio am fwyd, yn hytrach maent yn cerdded o gwmpas i chwilio am unrhyw pryfed neu anifeiliaid bach sydd i'w gweld ar yr wyneb. Maent yn bwydo ar fwd ger glan y môr fel rheol.

Nid yw'r Cwtiad Llwyd yn nythu yng Nghymru, ond mae cryn nifer yn treulio'r gaeaf yma.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY