Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwennol y glennydd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: gwenoliaid y glennydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Riparia riparia; yr enw Saesneg arno yw Sand martin. Mae'n perthyn i deulu'r Gwenoliaid (Lladin: Hirundinidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae hefyd i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn R. riparia, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop ac Affrica. Mae'n aderyn mudol, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n treulio'r gaeaf yn nwyrain a de Affrica, de Asia a De America. Mae Gwennol y Glennydd yn aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae'n un o'r adar mudol cyntaf i ddychwelyd yn y gwanwyn.
Mae'r aderyn tua 12 cm o hyd ac mae ganddo blu brown ar y cefn a gwyn ar ei fol, gyda brown ar draws y fron. Fel rheol mae nifer ohonyn nhw'n nythu gyda'i gilydd, mewn tyllau mewn clogwyni o dywod neu raean.
Mae'r gwennol y glennydd yn perthyn i deulu'r Gwenoliaid (Lladin: Hirundinidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Gwennol bondo Asia Delichon dasypus Gwennol bondo Nepal Delichon nipalensis Gwennol coed America Tachycineta bicolor Gwennol dinwen y De Tachycineta meyeni Gwennol ddibyn America Petrochelidon pyrrhonota Gwennol ddibyn yddf-frech Petrochelidon spilodera Gwennol euraid Tachycineta euchrysea Gwennol gain Petrochelidon ariel Gwennol mangrôf Tachycineta albilinea Gwennol ogof Petrochelidon fulva Gwennol resog India Petrochelidon fluvicola Gwennol werdd Tachycineta thalassina Gwennol y Bahamas Tachycineta cyaneoviridis Gwennol y bondo Delichon urbicum Gwennol yddfwinau Petrochelidon rufocollarisAderyn a rhywogaeth o adar yw Gwennol y glennydd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: gwenoliaid y glennydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Riparia riparia; yr enw Saesneg arno yw Sand martin. Mae'n perthyn i deulu'r Gwenoliaid (Lladin: Hirundinidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae hefyd i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn R. riparia, sef enw'r rhywogaeth.