Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Ysgellog sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cichorium intybus a'r enw Saesneg yw Chicory.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Ysgellog, Ysgallen y Meirch, Ysgallog Gwyllt, Ysgellog Gwyllt.
Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.
Mae'r gwreiddiau wedi cael eu defnyddio yn lle coffi.
Dyma’i statws ym Mhrydain yn ôl yr Atlas hwn: Archaeophyte (change -1.27 - [yn golygu ei fod yn prinhau]). Er i’r ysgellog gael ei ystyried ar un adeg yn gynhenid, o leiaf yng Nghymru a Lloegr, bellach amheuir ei fod yn deilwng o’r statws hwn yn y rhan fwyaf ffloráu modern, sydd yn hytrach yn awgrymu ei fod yn olion cnwd porthiant. Bu i’r rhywogaeth brinhau gan nas plennir hi llawer erbyn hyn (cae ar gyrion y Bontnewydd c. 2015-16). Planhigyn parhaol ymylon ffyrdd, caeau a glaswelltir garw ar ystod eang o briddoedd. iseldir. [2]
Llawer yn tyfu yn wyllt yn y twyni tywod ger y West End, Pwllheli.
Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Ysgellog sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cichorium intybus a'r enw Saesneg yw Chicory. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Ysgellog, Ysgallen y Meirch, Ysgallog Gwyllt, Ysgellog Gwyllt.
Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.