Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwybedog brith (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwybedogion brithion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Ficedula hypoleuca; yr enw Saesneg arno yw Pied flycatcher. Mae'n perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn F. hypoleuca, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'r Gwybedog Brith yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara. Ceir pedwar rhywogaeth o Wybedogion Ficedula yn y rhan yma o'r byd, ac mewn rhai gwledydd gall fod angen gofal i wahaniaethu rhyngddynt. Mae'r aderyn yn 12–13 cm. o hyd, ac mae'r ceiliog yn aderyn du a gwyn tarawiadol; du ar y cefn, gwyn ar y bol a chyda darn gwyn amlwg ar yr adenydd, tra bod gan yr iâr frown golau yn lle du ar y cefn.
Adeiledir y nyth mewn coedydd, ac mae'n arbennig o hoff o goedydd derw, a choedydd lle nad oes llawer o dyfiant islaw'r coed. Adeiledir y nyth mewn tyllau yn y coed neu mewn blychau nythu lle darperir y rhain.
Ystyrir y Gwybedog Brith yn un o adar nodweddiadol Cymru, yn enwedig yn y coedydd derw sy'n tyfu ar y llethrau.
Mae'r gwybedog brith yn perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Bronlas Luscinia svecica Eos Luscinia megarhynchos Eos fraith Luscinia lusciniaAderyn a rhywogaeth o adar yw Gwybedog brith (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwybedogion brithion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Ficedula hypoleuca; yr enw Saesneg arno yw Pied flycatcher. Mae'n perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn F. hypoleuca, sef enw'r rhywogaeth.