dcsimg
Image of poinsettia
Creatures » » Plants » » Dicotyledons » » Spurge Family »

Poinsettia

Euphorbia pulcherrima Willd. ex Klotzsch

Poinsetia ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Planhigyn o'r teulu Euphorbiaceae yw'r poinsetia (lluosog: poinsetias;[1] Lladin: Euphorbia pulcherrima) sy'n frodorol i Fecsico a Chanolbarth America. Yno, gall dyfu hyd at 16 troedfedd o daldra. Yr enw lleol arno ydy flor de la noche buena, 'blodyn y Nadolig'.

Poinsettia varieties.JPG

Mae ei ddail coch a gwyrdd yn boblogaidd, bellach drwy Ewrop, adeg y Nadolig. Daw ei enw o Joel Roberts Poinsett, a gyflwynodd y planhigyn i'r Unol Daleithiau pan oedd yn y llysgennad Americanaidd yng ngweriniaeth annibynnol Mecsico rhwng 1825 ac 1829.[2]

Tyfu'r Poinsetia

Gall y Poinsetia fod yn sensitif iawn; dylid ei gadw wyneb y compost yn llaith, drwy ei ddyfrio pan fo'n dechrau sychu. Awgryma'r naturiaethwyr hefyd chwistrellu tarth ysgafn ar y dail bob yn ail ddiwrnod.[3]

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, [poinsettia].
  2. (Saesneg) poinsettia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2014.
  3. Gwefan y-cymro.com (Y Cymro); colofn Gerallt Pennant; adalwyd 30 Rhagfyr 2016.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Poinsetia: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Planhigyn o'r teulu Euphorbiaceae yw'r poinsetia (lluosog: poinsetias; Lladin: Euphorbia pulcherrima) sy'n frodorol i Fecsico a Chanolbarth America. Yno, gall dyfu hyd at 16 troedfedd o daldra. Yr enw lleol arno ydy flor de la noche buena, 'blodyn y Nadolig'.

Poinsettia varieties.JPG

Mae ei ddail coch a gwyrdd yn boblogaidd, bellach drwy Ewrop, adeg y Nadolig. Daw ei enw o Joel Roberts Poinsett, a gyflwynodd y planhigyn i'r Unol Daleithiau pan oedd yn y llysgennad Americanaidd yng ngweriniaeth annibynnol Mecsico rhwng 1825 ac 1829.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY