Perlysieuyn blodeuol ydy'r Triaglog gyffredin (Lladin: Valeriana officinalis; Saesneg: Valerian) gyda blodau gwyn neu binc persawrus. Gelwir triaglog yn "llysiau Cadwgan", "felarian", a'r "feddyges fach" hefyd yn y Gymraeg[1]. Yng Nghymru mae'n blodeuo rhwng Mehefin a Medi a thyf drwy Ewrop, rhannau o Asia ac fe'i tyfwyd yn ddiweddar yn America lle mae'n cael ei fasnachu cryn lawer. Yn yr 16eg roedd y triaglog yn cael ei dyfu i wneud persawr. Yn yr un teulu mae'r Triaglog coch.[2]
Caiff ei beillio gan y glöyn byw yn yr haf.[3]
Mae'r hadau, y dail a'r gwreiddiau'n cael eu defnyddio ar gyfer eu rhinweddau iachusol.
Caiff y planhigyn ei ddefnyddio i leddfu straen, lladd poen a chur pen.[4] Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer anhunedd (insomnia), i ymlacio'r cyhyrau ac i atal anhunedd[5] Mae rhai defnyddwyr yn gorfod ei gymryd am wythnosau llawer cyn iddo weithio, ond caiff effaith sydyn ac uniongyrchol ar ddefnyddwyr eraill. Y cynhwysion sy'n weithredol yw'r olew, indoidau ac alcaloidau, sydd i gyd yn cynorthwyo'r corff i ymlacio.
Perlysieuyn blodeuol ydy'r Triaglog gyffredin (Lladin: Valeriana officinalis; Saesneg: Valerian) gyda blodau gwyn neu binc persawrus. Gelwir triaglog yn "llysiau Cadwgan", "felarian", a'r "feddyges fach" hefyd yn y Gymraeg. Yng Nghymru mae'n blodeuo rhwng Mehefin a Medi a thyf drwy Ewrop, rhannau o Asia ac fe'i tyfwyd yn ddiweddar yn America lle mae'n cael ei fasnachu cryn lawer. Yn yr 16eg roedd y triaglog yn cael ei dyfu i wneud persawr. Yn yr un teulu mae'r Triaglog coch.
Caiff ei beillio gan y glöyn byw yn yr haf.