Grŵp o adar trofannol ac isdrofannol ydy'r Cornbigau sydd hefyd yn 'deulu' o rywogaethau (enw gwyddonol neu Ladin: Bucerotidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Bucerotiformes.[2][3]
Mae nhw i'w gweld yn nhrofannau ac isdrofannau Affrica, Asia a Melanasia. Eu nodwedd amlycaf yw eu pigau hir, crwm sy'n aml iawn yn lliwgar iawn, ac felly y cafodd ei enw. Mae'r gair "buceros" yn yr iaith Roeg yn golygu 'corn buwch'. Dyma'r unig aderyn lle asiwyd eu fertibra cyntaf ac ail yn ei gilydd. Ffrwyth ac anifeiliaid bychan yw eu bwyd ac maent yn nythu mewn cilfachau naturiol, gwag, oddi fewn i goed, ac weithiau ar glogwyni. Mae rhai rhywogaethau'n hynod o brin ac o dan fygythiad.
Rhestr Wicidata:
teulu enw tacson delwedd Cornbig arianfochog Bycanistes brevis Cornbig Blyth Rhyticeros plicatus Cornbig bochblaen Rhyticeros subruficollis Cornbig bochfrown Bycanistes cylindricus Cornbig Bradfield Lophoceros bradfieldi Cornbig coch Buceros hydrocorax Cornbig codrychog Rhyticeros undulatus Cornbig cribog Berenicornis comatus Cornbig helmfrith Bycanistes subcylindricus Cornbig helmog Rhinoplax vigil Cornbig Narcondam Rhyticeros narcondami Cornbig Swmba Rhyticeros everetti Cornbig torwyn Lophoceros alboterminatus Cornbig utganol Bycanistes bucinator Rhabdotorrhinus leucocephalus Rhabdotorrhinus leucocephalus